Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 85:8-13

Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

1 Brenhinoedd 18:41-46

41 Ac Eleias a ddywedodd wrth Ahab, Dos i fyny, bwyta ac yf; canys wele drwst llawer o law. 42 Felly Ahab a aeth i fyny i fwyta ac i yfed. Ac Eleias a aeth i fyny i ben Carmel; ac a ymostyngodd ar y ddaear, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau; 43 Ac a ddywedodd wrth ei lanc, Dos i fyny yn awr, edrych tua’r môr. Ac efe a aeth i fyny ac a edrychodd, ac a ddywedodd, Nid oes dim. Dywedodd yntau, Dos eto saith waith. 44 A’r seithfed waith y dywedodd efe, Wele gwmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn dyrchafu o’r môr. A dywedodd yntau, Dos i fyny, dywed wrth Ahab, Rhwym dy gerbyd, a dos i waered, fel na’th rwystro y glaw. 45 Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. 46 A llaw yr Arglwydd oedd ar Eleias; ac efe a wregysodd ei lwynau, ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod i Jesreel.

Mathew 16:1-4

16 Ac wedi i’r Phariseaid a’r Sadwceaid ddyfod ato, a’i demtio, hwy a atolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo’r hwyr, y dywedwch, Tywydd teg; canys y mae’r wybr yn goch. A’r bore, Heddiw drycin; canys y mae’r wybr yn goch ac yn bruddaidd. O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren; ac oni fedrwch arwyddion yr amserau? Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.