Revised Common Lectionary (Complementary)
8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. 9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
17 A phan welodd Ahab Eleias, Ahab a ddywedodd wrtho, Onid ti yw yr hwn sydd yn blino Israel? 18 Ac efe a ddywedodd, Ni flinais i Israel; ond tydi, a thŷ dy dad: am i chwi wrthod gorchmynion yr Arglwydd, ac i ti rodio ar ôl Baalim. 19 Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jesebel.
30 A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A’r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid. 31 Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di. 32 Ac efe a adeiladodd â’r meini allor yn enw yr Arglwydd; ac a wnaeth ffos o gylch lle dau fesur o had, o amgylch yr allor. 33 Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddarniodd y bustach, ac a’i gosododd ar y coed; 34 Ac a ddywedodd, Llenwch bedwar celyrnaid o ddwfr, a thywelltwch ar y poethoffrwm, ac ar y coed. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch eilwaith; a hwy a wnaethant eilwaith. Ac efe a ddywedodd, Gwnewch y drydedd waith; a hwy a wnaethant y drydedd waith. 35 A’r dyfroedd a aethant o amgylch yr allor, ac a lanwodd y ffos o ddwfr. 36 A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn. 37 Gwrando fi, O Arglwydd, gwrando fi, fel y gwypo y bobl hyn mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, ac mai ti a ddychwelodd eu calon hwy drachefn. 38 Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a ysodd y poethoffrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch, ac a leibiodd y dwfr oedd yn y ffos. 39 A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, Yr Arglwydd, efe sydd Dduw, yr Arglwydd, efe sydd Dduw. 40 Ac Eleias a ddywedodd wrthynt hwy, Deliwch broffwydi Baal; na ddihanged gŵr ohonynt. A hwy a’u daliasant: ac Eleias a’u dygodd hwynt i waered i afon Cison, ac a’u lladdodd hwynt yno.
24 Eithr rhyw Iddew, a’i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus. 25 Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i’r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig. 26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a’i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach. 27 A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i’w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras; 28 Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.