Revised Common Lectionary (Complementary)
8 Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. 9 Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
44 Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais. 3 Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: 4 A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd. 5 Hwn a ddywed, Eiddo yr Arglwydd ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â’i law, Eiddo yr Arglwydd ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi: 8 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 9 Neu a oes un dyn ohonoch, yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg? 10 Ac os gofyn efe bysgodyn, a ddyry efe sarff iddo? 11 Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.