Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 3:5-12

Yn Gibeon yr ymddangosodd yr Arglwydd i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd Duw, Gofyn beth a roddaf i ti. A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw. Ac yn awr, O Arglwydd fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn. A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd. Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn? 10 A’r peth fu dda yng ngolwg yr Arglwydd, am ofyn o Solomon y peth hyn. 11 A Duw a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn: 12 Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.

Salmau 119:129-136

129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt. 130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar. 131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di. 132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw. 133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf. 134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion. 135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau. 136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

TSADI

Rhufeiniaid 8:26-39

26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint. 28 Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i’r rhai sydd yn caru Duw; sef i’r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef. 29 Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer. 30 A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a’r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. 31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Mathew 13:31-33

31 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: 32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

Mathew 13:44-52

44 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw.

45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: 46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.

47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth: 48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50 Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. 52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.