Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:129-136

129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt. 130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar. 131 Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di. 132 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw. 133 Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf. 134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion. 135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau. 136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

TSADI

1 Brenhinoedd 1:28-37

28 A’r brenin Dafydd a atebodd ac a ddywedodd, Gelwch Bathseba ataf fi. A hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd gerbron y brenin. 29 A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder, 30 Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn. 31 Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a’i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i’r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.

32 A’r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin. 33 A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi’a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun, a dygwch ef i waered i Gihon. 34 Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, a dywedwch, Bydded fyw y brenin Solomon. 35 Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i; ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda. 36 A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen: yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin. 37 Megis y bu yr Arglwydd gyda’m harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd.

1 Corinthiaid 4:14-20

14 Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl. 15 Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi. 17 Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19 Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.