Revised Common Lectionary (Complementary)
11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. 12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. 13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. 14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. 15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. 16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. 17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.
9 Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt. 10 Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles? 11 Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant. 12 Y gof â’r efel a weithia yn y glo, ac a’i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a’i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio. 13 Y saer pren a estyn ei linyn; efe a’i llunia hi wrth linyn coch; efe a’i cymhwysa hi â bwyeill, ac a’i gweithia wrth gwmpas, ac a’i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ. 14 Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a’r glaw a’i maetha. 15 Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a’i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a’i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo. 16 Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed, Aha, ymdwymais, gwelais dân. 17 A’r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a’i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt.
13 Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, 14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. 15 Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. 16 Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. 17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: 18 Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20 I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.