Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 92

Salm neu Gân ar y dydd Saboth.

92 Da yw moliannu yr Arglwydd, a chanu mawl i’th enw di, y Goruchaf: A mynegi y bore am dy drugaredd, a’th wirionedd y nosweithiau; Ar ddectant, ac ar y nabl; ac ar y delyn yn fyfyriol. Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred: yng ngwaith dy ddwylo y gorfoleddaf. Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd! dwfn iawn yw dy feddyliau. Gŵr annoeth ni ŵyr, a’r ynfyd ni ddeall hyn. Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd; hynny sydd i’w dinistrio byth bythoedd. Tithau, Arglwydd, wyt ddyrchafedig yn dragywydd. Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir: gwasgerir holl weithredwyr anwiredd. 10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: ag olew ir y’m heneinir. 11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwynfyd ar fy ngwrthwynebwyr: fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn. 12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwydden; ac a gynydda fel cedrwydden yn Libanus. 13 Y rhai a blannwyd yn nhŷ yr Arglwydd, a flodeuant yng nghynteddoedd ein Duw. 14 Ffrwythant eto yn eu henaint; tirfion ac iraidd fyddant: 15 I fynegi mai uniawn yw yr Arglwydd fy nghraig; ac nad oes anwiredd ynddo.

Deuteronomium 28:1-14

28 Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear. A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw. Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes. Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. Bendigedig fydd dy gawell a’th does di. Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan. Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti. Yr Arglwydd a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef. 10 A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rhagot. 11 A’r Arglwydd a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i’th dadau ar ei roddi i ti. 12 Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn. 13 A’r Arglwydd a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur; 14 Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i’r tu deau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt.

Effesiaid 4:17-5:2

17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, 18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: 19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24 A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. 25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. 26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27 Ac na roddwch le i ddiafol. 28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. 31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32 A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.

Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.