Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 65:1-8

I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.

65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.

Salmau 65:9-13

Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Eseia 52:1-6

52 Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan. Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd, Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Yn rhad yr ymwerthasoch; ac nid ag arian y’ch gwaredir. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddiachos. Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr Arglwydd, pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo, medd yr Arglwydd; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw. Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.

Ioan 12:44-50

44 A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45 A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46 Mi a ddeuthum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddeuthum i farnu’r byd, eithr i achub y byd. 48 Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diwethaf. 49 Canys myfi ni leferais ohonof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50 Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.