Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 65:1-8

I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.

65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.

Salmau 65:9-13

Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.

Eseia 48:1-5

48 Gwrandewch hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder. Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar Dduw Israel; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u traethais; mi a’u gwneuthum yn ddisymwth, daethant i ben. Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed, a’th war fel giewyn haearn, a’th dalcen yn bres; Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; adroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwnaeth, fy ngherfddelw a’m tawdd‐ddelw a’u gorchmynnodd.

Rhufeiniaid 2:12-16

12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.