Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
131 O Arglwydd, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid: ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr, a rhy uchel i mi. 2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam: fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu. 3 Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
10 Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd, ac a’i torrodd ef. 11 A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd.
12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd, 13 Dos di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn. 14 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon, a hwy a’i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.
15 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr Arglwydd mohonot ti; ond yr wyt yn peri i’r bobl hyn ymddiried mewn celwydd. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, mi a’th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd. 17 Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.
3 Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad? 2 Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw. 3 Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? 4 Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner. 5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;) 6 Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd? 7 Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur? 8 Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.