Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 145:8-14

Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. 10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.

Sechareia 4:1-7

A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a’m deffrôdd, fel y deffroir un o’i gwsg, Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a’i badell ar ei ben, a’i saith lusern arno, a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef; A dwy olewydden wrtho, y naill o’r tu deau i’r badell, a’r llall o’r tu aswy iddi. A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A’r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd. Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo.

Luc 10:21-24

21 Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di. 22 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.

23 Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neilltu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled: 24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.