Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:161-168

161 Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di. 162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. 163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. 164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. 165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. 166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion. 167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. 168 Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

TAU

1 Brenhinoedd 21:17-29

17 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, 18 Cyfod, dos i waered i gyfarfod Ahab brenin Israel, yr hwn sydd yn Samaria: wele efe yng ngwinllan Naboth, yr hon yr aeth efe i waered iddi i’w meddiannu. 19 A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd. 20 A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 21 Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a’r gweddilledig yn Israel: 22 A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa, oherwydd y dicter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. 23 Am Jesebel hefyd y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel. 24 Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o’r eiddo Ahab yn y ddinas: a’r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd.

25 Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr Arglwydd: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. 26 Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel. 27 A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf. 28 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, 29 Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.

1 Ioan 4:1-6

Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae. A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd eisoes. Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd. Hwynt-hwy, o’r byd y maent: am hynny y llefarant am y byd, a’r byd a wrendy arnynt. Nyni, o Dduw yr ydym. Yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.