Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 69:7-10

Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb. Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam. Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi. 10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.

Salmau 69:11-15

11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt. 12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd. 13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. 14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. 15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.

Salmau 69:16-18

16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf. 17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi. 18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.

Jeremeia 20:1-6

20 Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn; Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a’i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd. A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o’r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, ond Magor-missabib. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i’r rhai oll a’th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a’th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a’u caethgluda hwynt i Babilon, ac a’u lladd hwynt â’r cleddyf. Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a’i holl lafur, a phob dim a’r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a’u hanrheithiant hwynt, ac a’u cymerant, ac a’u dygant i Babilon. A thithau, Pasur, a phawb a’r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y’th gleddir, ti, a’r rhai oll a’th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

Luc 11:53-12:3

53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn daer iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau; 54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o’i ben ef, i gael achwyn arno.

12 Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.