Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
40 Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. 2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. 3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd. 4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd. 5 Lluosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. 6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist. 7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. 8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.
14 Ymchwel, Israel, at yr Arglwydd dy Dduw; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd. 2 Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr Arglwydd: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau. 3 Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.
4 Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho. 5 Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus. 6 Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus. 7 Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus. 8 Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di. 9 Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr Arglwydd, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.
12 Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. 2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth. 3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef? 4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i’r offeiriaid? 5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? 6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na’r deml. 7 Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. 8 Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.