Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
40 Disgwyliais yn ddyfal am yr Arglwydd; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain. 2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad. 3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd. 4 Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr Arglwydd yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd. 5 Lluosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. 6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech‐aberth nis gofynnaist. 7 Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf. 8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.
11 Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu. 12 Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd. 13 Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft. 14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.
10 Gwinwydden wag yw Israel; efe a ddwg ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau; yn ôl daioni ei dir gwnaethant ddelwau teg. 2 Eu calon a ymrannodd; yn awr y ceir hwy yn feius: efe a dyr i lawr eu hallorau hwynt; efe a ddistrywia eu delwau.
13 Parhaed brawdgarwch. 2 Nac anghofiwch letygarwch: canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod. 3 Cofiwch y rhai sydd yn rhwym, fel petech yn rhwym gyda hwynt; y rhai cystuddiol, megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff. 4 Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, a’r gwely dihalogedig: eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw. 5 Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych: canys efe a ddywedodd, Ni’th roddaf di i fyny, ac ni’th lwyr adawaf chwaith: 6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd sydd gymorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 7 Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. 8 Iesu Grist, ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd. 9 Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr: canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd. 10 Y mae gennym ni allor, o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta. 11 Canys cyrff yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod, a losgir y tu allan i’r gwersyll. 12 Oherwydd paham Iesu hefyd, fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i’r porth. 13 Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei waradwydd ef. 14 Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl. 15 Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef. 16 Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.