Revised Common Lectionary (Complementary)
15 Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.
6 Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. 2 Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. 3 Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.
4 Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol. 5 Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan. 6 Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoethoffrymau.
7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. 8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. 9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.
13 Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd. 14 Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi‐rym. 15 Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. 16 Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll, 17 (Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent: 18 Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di. 19 Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd‐dra bru Sara. 20 Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: 21 Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. 22 Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 23 Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; 24 Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: 25 Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.
9 Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a’i canlynodd ef.
10 A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion. 11 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 12 A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion. 13 Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
18 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi. 19 A’r Iesu a gyfododd, ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion.
20 (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: 21 Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef, iach fyddaf. 22 Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a’th iachaodd. A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.) 23 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu, 24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a’i gwatwarasant ef. 25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a’r llances a gyfododd. 26 A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.