Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 50:7-15

Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.

Galarnad 3:40-58

40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd. 41 Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd. 42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. 43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. 44 Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. 45 Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. 46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. 47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. 48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. 49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; 50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd. 51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. 52 Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. 53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. 54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.

55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes.

Actau 28:1-10

28 Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys. A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel. Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a’u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o’r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o’r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw. Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân, ac ni oddefodd ddim niwed. Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai duw oedd efe. Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd ni, ac a’n lletyodd dridiau yn garedig. A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a’i hiachaodd. Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd: 10 Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.