Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. 8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. 9 Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.
7 Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a’i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a’i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau. 8 Jerwsalem a bechodd bechod; am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a’i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl. 9 Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, Arglwydd, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn. 10 Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i’w chysegr, i’r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i’th gynulleidfa. 11 Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, Arglwydd, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.
17 Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd. 18 Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau’r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio’r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn. 19 Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth. 20 Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn, a’u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad. 21 Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt. 22 Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a’r hwch wedi ei golchi, i’w hymdreiglfa yn y dom.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.