Revised Common Lectionary (Complementary)
161 Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di. 162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. 163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. 164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. 165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. 166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion. 167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. 168 Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.TAU
21 A digwyddodd ar ôl y pethau hyn, fod gwinllan gan Naboth y Jesreeliad, yr hon oedd yn Jesreel, wrth balas Ahab brenin Samaria. 2 Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i’m tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian. 3 A Naboth a ddywedodd wrth Ahab, Na ato yr Arglwydd i mi roddi treftadaeth fy hynafiaid i ti. 4 Ac Ahab a ddaeth i’w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara.
5 Ond Jesebel ei wraig a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Paham y mae dy ysbryd mor athrist, ac nad wyt yn bwyta bara? 6 Ac efe a ddywedodd wrthi, Oherwydd i mi lefaru wrth Naboth y Jesreeliad, a dywedyd wrtho, Dyro i mi dy winllan er arian: neu, os mynni di, rhoddaf i ti winllan amdani. Ac efe a ddywedodd, Ni roddaf i ti fy ngwinllan. 7 A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad. 8 Felly hi a ysgrifennodd lythyrau yn enw Ahab, ac a’u seliodd â’i sêl ef, ac a anfonodd y llythyrau at yr henuriaid, ac at y penaethiaid oedd yn ei ddinas yn trigo gyda Naboth. 9 A hi a ysgrifennodd yn y llythyrau, gan ddywedyd, Cyhoeddwch ympryd, a gosodwch Naboth uwchben y bobl. 10 Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist Dduw a’r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. 11 A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a’r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy. 12 Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl. 13 A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd Dduw a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw. 14 Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.
15 A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a’i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw. 16 A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.
9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi ysgrifennu ohonof atoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. 10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o’r brodyr y rhai sydd trwy holl Facedonia: ond yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, gynyddu ohonoch fwyfwy; 11 A rhoddi ohonoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio â’ch dwylo eich hunain, (megis y gorchmynasom i chwi;) 12 Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd oddi allan, ac na byddo arnoch eisiau dim.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.