Revised Common Lectionary (Complementary)
Maschil Ethan yr Esrahiad.
89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. 2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. 3 Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. 4 Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.
15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.
8 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau, 9 Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. 10 Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt. 11 A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain. 12 A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’r genedl honno, medd yr Arglwydd, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol. 13 Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. 14 Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.
7 Chwi a redasoch yn dda; pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd? 8 Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi. 9 Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does. 10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. 11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes. 12 Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.