Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 89:1-4

Maschil Ethan yr Esrahiad.

89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.

Salmau 89:15-18

15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.

Jeremeia 25:1-7

25 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon; Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr Arglwydd ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch. A’r Arglwydd a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed. Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr Arglwydd i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd: Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi. Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr Arglwydd, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.

Galatiaid 5:2-6

Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.