Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.
6 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. 2 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. 3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? 4 Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. 5 Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? 6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. 7 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. 8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. 9 Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.
7 Gwae fi! canys ydwyf fel casgliadau ffrwythydd haf, fel lloffion grawnwin y cynhaeaf gwin; nid oes swp o rawn i’w bwyta; fy enaid a flysiodd yr aeddfed ffrwyth cyntaf. 2 Darfu am y duwiol oddi ar y ddaear, ac nid oes un uniawn ymhlith dynion; cynllwyn y maent oll am waed; pob un sydd yn hela ei frawd â rhwyd.
3 I wneuthur drygioni â’r ddwy law yn egnïol, y tywysog a ofyn, a’r barnwr am wobr; a’r hwn sydd fawr a ddywed lygredigaeth ei feddwl: felly y plethant ef. 4 Y gorau ohonynt sydd fel miaren, yr unionaf yn arwach na chae drain; dydd dy wylwyr, a’th ofwy, sydd yn dyfod: bellach y bydd eu penbleth hwynt.
5 Na chredwch i gyfaill, nac ymddiriedwch i dywysog: cadw ddrws dy enau rhag yr hon a orwedd yn dy fynwes. 6 Canys mab a amharcha ei dad, y ferch a gyfyd yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr: a gelynion gŵr yw dynion ei dŷ. 7 Am hynny mi a edrychaf ar yr Arglwydd, disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth: fy Nuw a’m gwrendy.
2 At angel yr eglwys sydd yn Effesus, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau, yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur, yn eu dywedyd; 2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a’th lafur, a’th amynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion, ac nid ydynt; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog: 3 A thi a oddefaist, ac y mae amynedd gennyt, ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist. 4 Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn, am i ti ymadael â’th gariad cyntaf. 5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna’r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le, onid edifarhei di. 6 Ond hyn sydd gennyt ti, dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu. 7 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd, yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.