Revised Common Lectionary (Complementary)
7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb. 8 Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam. 9 Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi. 10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.
11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt. 12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd. 13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. 14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. 15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf. 17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi. 18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.
18 Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. 19 Ystyria di wrthyf, O Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi. 20 A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt. 21 Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel. 22 Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed. 23 Tithau, O Arglwydd, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th ŵydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.
17 A’r archoffeiriad a gyfododd, a’r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi’r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen, 18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin. 19 Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, 20 Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau’r fuchedd hon. 21 A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i’r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a’r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i’w dwyn hwy gerbron. 22 A’r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant, 23 Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o’r fath sicraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn. 24 A phan glybu’r archoffeiriad, a blaenor y deml, a’r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn. 25 Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae’r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl. 26 Yna y blaenor, gyda’r swyddogion, a aeth, ac a’u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio;
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.