Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 105:1-11

105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.

Salmau 105:37-45

37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.

Josua 1:1-11

Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd, Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses. O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi. Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf. Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt. Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni. Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.

10 Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd, 11 Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i’r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu.

1 Thesaloniaid 3:1-5

Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni. Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.