Revised Common Lectionary (Complementary)
2 Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd. 3 A Moses a aeth i fyny at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; 4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais ataf fi fy hun. 5 Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear. 6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
7 A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo. 8 A’r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd.
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
5 Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: 2 Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i’r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. 3 Ac nid felly yn unig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau; gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch; 4 A dioddefgarwch, brofiad; a phrofiad, obaith: 5 A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy’r Ysbryd Glân yr hwn a roddwyd i ni. 6 Canys Crist, pan oeddem ni eto yn weiniaid, mewn pryd a fu farw dros yr annuwiol. 7 Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd. 8 Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.
35 A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd, gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
36 A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel defaid heb ganddynt fugail. 37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: 38 Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.
10 Ac wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd. 2 Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 3 Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; 4 Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. 5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: 6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. 7 Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu. 8 Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.
9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau; 10 Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14 A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.
16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19 Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20 Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23 A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.