Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm o foliant.
100 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear. 2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o’i flaen ef â chân. 3 Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa. 4 Ewch i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw. 5 Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
18 A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch. 19 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aifft; oherwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes. 20 A Moses a gymerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law. 21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl. 22 A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf‐anedig, yw Israel. 23 A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.
3 Oherwydd paham, frodyr sanctaidd, cyfranogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, Crist Iesu; 2 Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef, megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef. 3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses, o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ. 4 Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw. 5 A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas, er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru; 6 Eithr Crist, megis Mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.