Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.
8 Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. 2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. 3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist; 4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? 5 Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. 6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: 7 Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; 8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. 9 Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg, 23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel? 24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear? 25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau, 26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo? 27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu? 28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith? 29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd? 30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd. 31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion? 32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion? 33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear? 34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? 35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? 36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? 37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. 38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?
15 O cherwch fi, cedwch fy ngorchmynion. 16 A mi a weddïaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; 17 Ysbryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.