Revised Common Lectionary (Complementary)
24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
7 Felly y gwnaf adnabod fy enw sanctaidd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd mwy: a’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, y Sanct yn Israel.
8 Wele, efe a ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd Dduw; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais.
21 A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a’r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a’m llaw yr hon a osodais arnynt. 22 A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o’r dydd hwnnw allan.
23 Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf. 24 Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt. 25 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd; 26 Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a’u holl gamweddau a wnaethant i’m herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd. 27 Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a’u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y’m sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer; 28 Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn a’u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a’u cesglais hwynt i’w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno. 29 Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
26 A’r un ffunud y mae’r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae’r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy. 27 A’r hwn sydd yn chwilio’r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.