Revised Common Lectionary (Complementary)
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
54 Ac wedi gorffen o Solomon weddïo ar yr Arglwydd yr holl weddi a’r deisyfiad yma, efe a gyfododd oddi gerbron allor yr Arglwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua’r nefoedd. 55 Ac efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynulleidfa Israel â llef uchel, gan ddywedyd, 56 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a roddes lonyddwch i’w bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd un gair o’i holl addewidion da ef, y rhai a addawodd efe trwy law Moses ei was. 57 Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni: 58 I ostwng ein calonnau ni iddo ef, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, y rhai a orchmynnodd efe i’n tadau ni. 59 A bydded fy ngeiriau hyn, y rhai a ddeisyfais gerbron yr Arglwydd, yn agos at yr Arglwydd ein Duw ddydd a nos, i wneuthur barn â’i was, a barn â’i bobl Israel beunydd, fel y byddo’r achos: 60 Fel y gwypo holl bobl y ddaear mai yr Arglwydd sydd Dduw, ac nad oes arall. 61 Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r Arglwydd ein Duw ni, i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchmynion ef, fel heddiw.
62 A’r brenin a holl Israel gydag ef a aberthasant aberth gerbron yr Arglwydd. 63 A Solomon a aberthodd aberth hedd, yr hwn a offrymodd efe i’r Arglwydd, sef dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech ugain mil o ddefaid. Felly y brenin a holl feibion Israel a gysegrasant dŷ yr Arglwydd. 64 Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd oedd o flaen tŷ yr Arglwydd: canys yno yr offrymodd efe y poethoffrymau, a’r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd: oherwydd yr allor bres, yr hon oedd gerbron yr Arglwydd, oedd ry fechan i dderbyn y poethoffrymau, a’r bwyd‐offrymau, a braster yr offrymau hedd. 65 A Solomon a gadwodd y pryd hwnnw ŵyl, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft, gerbron yr Arglwydd ein Duw, saith o ddyddiau a saith o ddyddiau, sef pedwar diwrnod ar ddeg.
31 Yr hwn a ddaeth oddi uchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o’r ddaear, sydd o’r ddaear, ac am y ddaear y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o’r nef, sydd goruwch pawb. 32 A’r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef. 33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth ef, a seliodd mai geirwir yw Duw. 34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw; oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi iddo ef yr Ysbryd. 35 Y mae’r Tad yn caru y Mab, ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef. 36 Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.