Revised Common Lectionary (Complementary)
6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai’r pryd hwn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? 7 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na’r prydiau, y rhai a osododd y Tad yn ei feddiant ei hun. 8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Ysbryd Glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaear. 9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a ddyrchafwyd i fyny; a chwmwl a’i derbyniodd ef allan o’u golwg hwynt. 10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua’r nef, ac efe yn myned i fyny, wele, dau ŵr a safodd gerllaw iddynt mewn gwisg wen; 11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i’r nef. 12 Yna y troesant i Jerwsalem, o’r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Jerwsalem, sef taith diwrnod Saboth. 13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fyny i oruwchystafell, lle yr oedd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Mathew, Iago mab Alffeus, a Simon Selotes, a Jwdas brawd Iago, yn aros. 14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef.
I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd.
68 Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef. 2 Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw. 3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron Duw; a byddant hyfryd o lawenydd. 4 Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef. 5 Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw Duw, yn ei breswylfa sanctaidd. 6 Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir. 7 Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela: 8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel. 9 Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino. 10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela: 33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol. 34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau. 35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o’th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo Duw.
12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir.
6 Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas: 7 Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi. 8 Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. 9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd. 10 A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo. 11 Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
17 Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 2 Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragwyddol. 3 A hyn yw’r bywyd tragwyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist. 4 Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 5 Ac yr awron, O Dad, gogonedda di fyfi gyda thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd. 6 Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 7 Yr awron y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae’r holl bethau a roddaist i mi: 8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y deuthum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 9 Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 10 A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 11 Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod atat ti. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.