Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 93

93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.

Deuteronomium 31:1-13

31 A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel; Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon. Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o’th flaen di; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen, a thi a’u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd. A’r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i’w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe. A rhydd yr Arglwydd hwynt o’ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi. Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.

A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt. A’r Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.

A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel. 10 A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll, 11 Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant. 12 Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon; 13 Ac y byddo i’w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

Ioan 16:16-24

16 Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. 17 Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad? 18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. 19 Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch? 20 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd. 21 Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. 22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23 A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 24 Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.