Revised Common Lectionary (Complementary)
93 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo. 2 Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb. 3 Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau. 4 Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr. 5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau: sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.
8 A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd, 9 Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â’ch had ar eich ôl chwi; 10 Ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, â’r ehediaid, â’r anifeiliaid, ac â phob bwystfil y tir gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch, hyd holl fwystfilod y ddaear. 11 A mi a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi, ac ni thorrir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dilyw, ac ni bydd dilyw mwy i ddifetha’r ddaear. 12 A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol: 13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a’r ddaear. 14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl. 15 A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd. 16 A’r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio’r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaear. 17 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaear.
39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i’r hon y cyngorasant, os gallent, wthio’r llong iddi. 40 Ac wedi iddynt godi’r angorau, hwy a ymollyngasant i’r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lan. 41 Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a’r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau. 42 A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith. 43 Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i’r môr, a myned allan i’r tir: 44 Ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.