Revised Common Lectionary (Complementary)
8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: 9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro. 10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian. 11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. 12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall. 13 Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau, 14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder. 15 Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl‐darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela. 16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid. 17 Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod. 18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd. 19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi. 20 Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.
5 A’r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. 6 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon. 7 A’r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8 Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd.
9 Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda Duw y rhodiodd Noa. 10 A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth. 11 A’r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd. 12 A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear. 13 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear.
14 Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg. 15 Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder. 16 Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi. 17 Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga. 18 Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. 19 Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant. 20 O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw. 21 A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau. 22 Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.
27 A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a’i enw Jwlius, o fyddin Augustus. 2 Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o’r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. 3 A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd. 4 Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. 5 Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia. 6 Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital, a’n gosododd ni ynddi. 7 Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai’r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone. 8 Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo. 9 Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd, 10 Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a’r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd. 11 Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul. 12 A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau‐orllewin, a’r gogledd‐orllewin.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.