Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Actau 7:55-60

55 Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 56 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, 58 Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. 59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. 60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

Salmau 31:1-5

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

31 Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth. I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.

Salmau 31:15-16

15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.

1 Pedr 2:2-10

Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef: Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion. At yr hwn yr ydych yn dyfod, megis at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, a gwerthfawr. A chwithau, megis meini bywiol, ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist. Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur, Wele, yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen, etholedig, a gwerthfawr: a’r hwn a gred ynddo, nis gwaradwyddir. I chwi gan hynny, y rhai ydych yn credu, y mae yn urddas: eithr i’r anufuddion, y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl, Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufudd; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd. Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef: 10 Y rhai gynt nid oeddech bobl, ond yn awr ydych bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd.

Ioan 14:1-14

14 Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi. Ac os myfi a af, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a’ch cymeraf chwi ataf fy hun; fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi a wyddoch, a’r ffordd a wyddoch. Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wybod y ffordd? Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi. Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? 10 Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. 11 Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau: ac onid e, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hunain. 12 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a’u gwna, a mwy na’r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhad. 13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf; fel y gogonedder y Tad yn y Mab. 14 Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.