Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 31:1-5

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

31 Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth. I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.

Salmau 31:15-16

15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.

Genesis 12:1-3

12 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith. Bendithiaf hefyd dy fendithwyr, a’th felltithwyr a felltigaf: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti.

Actau 6:8-15

Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.

Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan: 10 Ac ni allent wrthwynebu’r doethineb a’r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru. 11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw. 12 A hwy a gynyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion; a chan ddyfod arno, a’i cipiasant ef, ac a’i dygasant i’r gynghorfa; 13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent, Nid yw’r dyn hwn yn peidio â dywedyd cableiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith: 14 Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, y distrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe y defodau a draddododd Moses i ni. 15 Ac fel yr oedd yr holl rai a eisteddent yn y cyngor yn dal sylw arno, hwy a welent ei wyneb ef fel wyneb angel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.