Revised Common Lectionary (Complementary)
42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau. 43 Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion. 44 A’r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin; 45 A hwy a werthasant eu meddiannau a’u da, ac a’u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb. 46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, 47 Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
19 Canys hyn sydd rasol, os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. 20 Oblegid pa glod yw, os, pan bechoch, a chael eich cernodio, y byddwch dda eich amynedd? eithr os, a chwi’n gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol gerbron Duw. 21 Canys i hyn y’ch galwyd hefyd: oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef: 22 Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau: 23 Yr hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddioddefodd, ni fygythiodd; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn: 24 Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren; fel, gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. 25 Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau.
10 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw. 2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. 3 I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. 4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. 5 Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. 6 Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. 7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. 8 Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. 9 Myfi yw’r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. 10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.