Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
134 Wele, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd, y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos. 2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr Arglwydd. 3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
24 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell. 2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.
3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd. 4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel. 5 Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd. 6 A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor. 7 Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. 8 A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.
9 Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel. 10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder. 11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.
21 Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu a ymddangosodd drachefn i’w ddisgyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd. 2 Yr oedd ynghyd Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Gana yng Ngalilea, a meibion Sebedeus, a dau eraill o’i ddisgyblion ef. 3 Dywedodd Simon Pedr wrthynt, Yr wyf fi yn myned i bysgota. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyda thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: a’r nos honno ni ddaliasant ddim. 4 A phan ddaeth y bore weithian, safodd yr Iesu ar y lan; eithr y disgyblion ni wyddent mai yr Iesu ydoedd. 5 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennych ddim bwyd? Hwythau a atebasant iddo, Nac oes. 6 Yntau a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i’r tu deau i’r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny; ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pysgod. 7 Am hynny y disgybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu a ddywedodd wrth Pedr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Pedr, pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisg, (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr. 8 Eithr y disgyblion eraill a ddaethant mewn llong (oblegid nid oeddynt bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd,) dan lusgo’r rhwyd â’r pysgod. 9 A chyn gynted ag y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physgod wedi eu dodi arno, a bara. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o’r pysgod a ddaliasoch yr awron. 11 Simon Pedr a esgynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorrodd y rhwyd. 12 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiai neb o’r disgyblion ofyn iddo, Pwy wyt ti? am eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd oedd. 13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymerth fara, ac a’i rhoddes iddynt, a’r pysgod yr un modd. 14 Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.