Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
134 Wele, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd, y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos. 2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr Arglwydd. 3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
32 Yr awron gan hynny, O feibion, gwrandewch arnaf; canys gwyn eu byd a gadwant fy ffyrdd i. 33 Gwrandewch addysg, a byddwch ddoethion; nac ymwrthodwch â hi. 34 Gwyn ei fyd y dyn a wrandawo arnaf, ac a wylio yn ddyfal beunydd wrth fy nrysau, gan warchod wrth byst fy mhyrth i. 35 Canys y neb a’m caffo i, a gaiff fywyd, ac a feddianna ewyllys da gan yr Arglwydd. 36 Ond y neb a becho yn fy erbyn, a wna gam â’i enaid ei hun: fy holl gaseion a garant angau.
9 Doethineb a adeiladodd ei thŷ, hi a naddodd ei saith golofn. 2 Hi a laddodd ei hanifeiliaid; hi a gymysgodd ei gwin, ac a huliodd ei bwrdd. 3 Hi a yrrodd ei llawforynion: y mae yn llefain oddi ar fannau uchel y ddinas: 4 Pwy bynnag sydd annichellgar, tröed i mewn yma: ac wrth yr annoeth y mae hi yn dywedyd, 5 Deuwch, a bwytewch o’m bara, ac yfwch o’r gwin a gymysgais. 6 Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall.
2 Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air, 2 Fel rhai bychain newydd-eni, chwenychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynyddoch trwyddo ef: 3 Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.