Revised Common Lectionary (Complementary)
116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. 2 Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef. 3 Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais. 4 Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
12 Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi? 13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. 14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef. 16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau. 17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd. 18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl, 19 Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
25 O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd. 2 Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth. 3 Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda: 4 Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. 5 Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.
8 Yr hwn, er nas gwelsoch, yr ydych yn ei garu; yn yr hwn, heb fod yr awron yn ei weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus: 9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, sef iachawdwriaeth eich eneidiau. 10 Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y proffwydi, y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi: 11 Gan chwilio pa bryd, neu pa ryw amser, yr oedd Ysbryd Crist, yr hwn oedd ynddynt, yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist, a’r gogoniant ar ôl hynny. 12 I’r rhai y datguddiwyd, nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni, yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi, gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân, yr hwn a ddanfonwyd o’r nef; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.