Revised Common Lectionary (Complementary)
114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; 2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. 3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. 4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. 5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? 6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? 7 Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: 8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.
36 A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist; 37 Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist. 38 Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o’r cnu, lonaid ffiol o ddwfr. 39 A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, Na lidied dy ddicllonedd i’m herbyn, a mi a lefaraf unwaith eto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy’r cnu: bydded, atolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith. 40 A Duw a wnaeth felly y noson honno: canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith.
12 Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? 13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: 14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. 15 Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. 16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. 17 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. 18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist. 19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni. 20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.