Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 118:1-2

118 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

Salmau 118:14-24

14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi. 15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 16 Deheulaw yr Arglwydd a ddyrchafwyd: deheulaw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur grymuster. 17 Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd. 18 Gan gosbi y’m cosbodd yr Arglwydd: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. 19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd. 20 Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. 21 Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. 22 Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. 23 O’r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. 24 Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.

Exodus 14:10-31

10 A phan nesaodd Pharo, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Eifftiaid yn dyfod ar eu hôl; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd. 11 A dywedasant wrth Moses, Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft, y dygaist ni i farw yn yr anialwch? Paham y gwnaethost fel hyn â ni, gan ein dwyn allan o’r Aifft? 12 Onid dyma y peth a lefarasom wrthyt yn yr Aifft, gan ddywedyd, Paid â ni, fel y gwasanaethom yr Eifftiaid? canys gwell fuasai i ni wasanaethu’r Eifftiaid, na marw yn yr anialwch.

13 A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddiw; oblegid yr Eifftiaid y rhai a welsoch chwi heddiw, ni chewch eu gweled byth ond hynny. 14 Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.

15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Paham y gwaeddi arnaf? dywed wrth feibion Israel am gerdded rhagddynt. 16 A chyfod dithau dy wialen, ac estyn dy law ar y môr, a hollta ef: a meibion Israel a ânt trwy ganol y môr ar dir sych. 17 Wele, fi, ie myfi a galedaf galon yr Eifftiaid, fel y delont ar eu hôl hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharo, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar ei farchogion. 18 A’r Eifftiaid a gânt wybod mai myfi yw’r Arglwydd, pan y’m gogoneddir ar Pharo, ar ei gerbydau, ac ar ei farchogion.

19 Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o’u hôl hwynt; a’r golofn niwl a aeth ymaith o’u tu blaen hwynt, ac a safodd o’u hôl hwynt. 20 Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i’r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. 21 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a’r Arglwydd a yrrodd y môr yn ei ôl, trwy ddwyreinwynt cryf ar hyd y nos, ac a wnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd. 22 A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu deau, ac o’r tu aswy.

23 A’r Eifftiaid a erlidiasant, ac a ddaethant ar eu hôl hwynt; sef holl feirch Pharo, a’i gerbydau, a’r farchogion, i ganol y môr. 24 Ac ar yr wyliadwriaeth fore yr Arglwydd a edrychodd ar fyddin yr Eifftiaid trwy’r golofn dân a’r cwmwl, ac a derfysgodd fyddin yr Eifftiaid. 25 Ac efe a dynnodd ymaith olwynion eu cerbydau; ac yr oeddynt yn gyrru yn drwm: fel y dywedodd yr Eifftiaid, Ffown oddi wrth Israel; oblegid yr Arglwydd sydd yn ymladd drostynt hwy yn erbyn yr Eifftiaid.

26 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law ar y môr; fel y dychwelo’r dyfroedd ar yr Eifftiaid, ar eu cerbydau, ac ar eu marchogion. 27 A Moses a estynnodd ei law ar y môr: a dychwelodd y môr cyn y bore i’w nerth; a’r Eifftiaid a ffoesant yn ei erbyn ef: a’r Arglwydd a ddymchwelodd yr Eifftiaid yng nghanol y môr. 28 A’r dyfroedd a ddychwelasant, ac a orchuddiasant gerbydau, a marchogion, a holl fyddin Pharo, y rhai a ddaethant ar eu hôl hwynt i’r môr: ni adawyd ohonynt gymaint ag un. 29 Ond meibion Israel a gerddasant ar dir sych yng nghanol y môr: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, ar y llaw ddeau, ac ar y llaw aswy. 30 Felly yr Arglwydd a achubodd Israel y dydd hwnnw o law yr Eifftiaid: a gwelodd Israel yr Eifftiaid yn feirw ar fin y môr. 31 A gwelodd Israel y grymuster mawr a wnaeth yr Arglwydd yn erbyn yr Eifftiaid: a’r bobl a ofnasant yr Arglwydd, ac a gredasant i’r Arglwydd, ac i’w was ef Moses.

Exodus 15:20-21

20 A Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hôl hi, â thympanau ac â dawnsiau. 21 A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.

Colosiaid 3:5-11

Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.