Revised Common Lectionary (Complementary)
14 Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul. 2 Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe â gilia fel cysgod, ac ni saif. 3 A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi? 4 Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb. 5 Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt: 6 Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod. 7 Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu. 8 Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd; 9 Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn. 10 Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae? 11 Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr, a’r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu: 12 Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o’u cwsg. 13 O na chuddit fi yn y bedd! na’m cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a’m cofio! 14 Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad.
3 Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. 2 I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. 3 Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. 4 Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. 5 Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. 6 Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. 7 Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. 8 Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. 9 Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau.
19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.
22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
31 Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. 2 Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. 3 Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. 4 Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
4 Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod; 2 Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd. 3 Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad: 4 Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd: 5 Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw. 6 Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd. 7 Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. 8 Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.
57 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: 58 Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff. 59 A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, 60 Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62 A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat, 63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf. 64 Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf. 65 A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch. 66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.
38 Ac ar ôl hyn, Joseff o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon) a ddeisyfodd ar Peilat, gael tynnu i lawr gorff yr Iesu: a Pheilat a ganiataodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorff yr Iesu. 39 A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hyd nos,) ac a ddug fyrr ac aloes yng nghymysg, tua chan pwys. 40 Yna y cymerasant gorff yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau, gydag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. 41 Ac yn y fangre lle y croeshoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed. 42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar‐ŵyl yr Iddewon, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.