Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 31:9-16

Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.

Galarnad 3:55-66

55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. 59 Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. 60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. 61 Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a’u holl fwriadau i’m herbyn; 62 Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. 63 Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

64 Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo. 65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. 66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.

Marc 10:32-34

32 Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef: 33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd: 34 A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.