Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 31:9-16

Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.

Job 13:13-19

13 Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo. 14 Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw? 15 Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef. 16 Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef. 17 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau. 18 Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir. 19 Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf.

Philipiaid 1:21-30

21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. 22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. 23 Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. 24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. 25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; 26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch. 27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl; 28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw. 29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef; 30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.