Revised Common Lectionary (Complementary)
9 Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.
11 Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae efe yn bugeilio’r defaid. A dywedodd Samuel wrth Jesse, Danfon, a chyrch ef: canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma. 12 Ac efe a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef. Ac efe oedd writgoch, a theg yr olwg, a hardd o wedd. A dywedodd yr Arglwydd, Cyfod, eneinia ef: canys dyma efe. 13 Yna y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama.
1 Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: 2 Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, 4 Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, 5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; 6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: 7 Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. 8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. 9 A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; 10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; 11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.