Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
130 O’r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd. 2 Arglwydd, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau. 3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd, pwy a saif? 4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner. 5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf. 6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore. 7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd; oherwydd y mae trugaredd gyda’r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef. 8 Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
10 Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw? 11 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw? 12 Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho. 13 Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw. 14 A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder; 15 Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw: 16 Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.
15 A’r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a’i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. 16 A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist. 18 A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear. 19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.