Revised Common Lectionary (Complementary)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
17 Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn. 18 Ni chlywir mwy sôn am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a elwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant. 19 Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th Dduw yn ogoniant i ti. 20 Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr Arglwydd fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant. 21 Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder. 22 Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr Arglwydd a brysuraf hynny yn ei amser.
27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. 28 Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. 29 Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. 30 A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. 31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.
32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig. 33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel. 34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.