Revised Common Lectionary (Complementary)
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
9 Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio. 10 Palfalasom fel deillion â’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw. 11 Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym. 12 Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom: 13 Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd‐dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau. 14 Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn. 15 Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr Arglwydd hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.
16 Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd. 17 Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl. 18 Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe. 19 Felly yr ofnant enw yr Arglwydd o’r gorllewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr Arglwydd a’i hymlid ef ymaith.
9 A Saul eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn disgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr archoffeiriad, 2 Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y synagogau; fel os câi efe neb o’r ffordd hon, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerwsalem. 3 Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o’i amgylch oleuni o’r nef. 4 Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? 5 Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. 6 Yntau gan grynu, ac â braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 7 A’r gwŷr oedd yn cyd‐deithio ag ef a safasant yn fud, gan glywed y llais, ac heb weled neb. 8 A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus. 9 Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
10 Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a’i enw Ananeias: a’r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. 11 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a’i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo; 12 Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a’i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. 13 Yna yr atebodd Ananeias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i’th saint di yn Jerwsalem. 14 Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. 15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. 16 Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i. 17 Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i’r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a’m hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y’th lanwer â’r Ysbryd Glân. 18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. 19 Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. 20 Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.