Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. 2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. 3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. 4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. 5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. 6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.
32 Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddywedodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith. 33 A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal.
34 Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i’w dŷ yn Gibea Saul.
1 Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2 Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. 3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. 4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. 5 A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6 Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. 7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. 8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.