Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 23

Salm Dafydd.

23 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf. Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel. Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw. Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant. Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn. Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.

1 Samuel 15:10-21

10 Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel, gan ddywedyd, 11 Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyflawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos. 12 A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo le, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. 13 A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul a ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd: mi a gyflewnais air yr Arglwydd. 14 A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? 15 A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw; a’r rhan arall a ddifrodasom ni. 16 Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. 17 A Samuel a ddywedodd, Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel? 18 A’r Arglwydd a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, Dos, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd i’w herbyn, nes eu difa hwynt. 19 Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr Arglwydd iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. 21 Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal.

Effesiaid 4:25-32

25 Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i’n gilydd. 26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi: 27 Ac na roddwch le i ddiafol. 28 Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â’i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i’w gyfrannu i’r hwn y mae angen arno. 29 Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i’r gwrandawyr. 30 Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy’r hwn y’ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. 31 Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni: 32 A byddwch gymwynasgar i’ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i’ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.